Dydd Sul 7fed o Ragfyr
2.30pm gydag Is-deitlau Cymraeg
6.30pm gydag Is-deitlau Saesneg
Tocynnau Safonol £9 Pobl Hŷn £8 Aelodau £7
Archebwch eich lle 24 awr ymlaen llaw am ostyngiad o £1 ar bob tocyn
Mewn cyfuniad unigryw o Opera a Sinema, mae Tanau’r Lloer, yn ffilm Cymraeg du a gwyn sy’n cyfareddu gafodd ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Caeredin yr haf hwn. Gyda cherddoriaeth yn cael ei pherfformio gan Gerddorfa Opera Genedlaethol Cymru, mae wedi’i ysbrydoli gan glasur llenyddol Caradog Prichard Un Nos Ola Leuad.
Wedi’i osod yn nhirwedd chwarelyddol gogledd Cymru yn yr 1950au mae’r ffilm yn dilyn ysgrifennwr syn dechrau ar daith drên yn hwyr y nos, gan gyniwair atgofion o dri degawd yn gynharach a’i orfodi i wynebu’r digwyddiadau wnaeth arwain at ei fam yn cael ei chadw mewn seilam.
Mae’r prosiect yn arddangos cyfoeth o ddoniau creadigol o Gymru - gyda’r gerddoriaeth wedi’i chyfansoddi gan Gareth Glyn, gyda libretto gan Iwan Teifion Davies a Patrick Young, mae’r Tenor Huw Ynyr yn serennu ochr yn ochr gydag Annes Elwy, Dylan Jones, y soprano Elin Pritchard, y bariton Emyr Wyn Jones a’r cantorion Rhys Meirion a Shan Cothi.
Mae’r ffilm wedi’i chyfarwyddo gan Chris Forster gyda sgript ffilm gan y gwneuthurwr ffilmiau arobryn Marc Evans a’i chynhyrchu gan Kirsten Stoddart. Mae’n gynhyrchiad ar y cyd rhwng Afanti, OPRA Cymru a Severn Screen, gydag ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac asiantaeth Llywodraeth Cymru, Cymru Greadigol.
Bydd y ddau ddangosiad dydd Sul yn cael eu cyflwyno gan Patrick Young, Cynhyrchydd Gweithredol y ffilm a Chyfarwyddwr Artistig Opra Cymru.
Am 5.15pm bydd perfformiad operatig hyfryd gan Stephanie Windsor-Lewis, mezzo a Robyn Lyn Evans, tenor.
Dylai deiliaid tocynnau ar gyfer dangosiad 6.30pm gyrraedd am 5pm ar gyfer y perfformiad opera byw.
Archebwch eich lle ymlaen llaw os gwelwch yn dda er mwyn bod yn sicr o gael sedd!
Ar-lein yn tywyncinema.co.uk
Ffôn: 01654 710260
Yn y Swyddfa Docynnau
Amseroedd agor y swyddfa docynnau
Dydd Llun i ddydd Sadwrn 3pm - 9pm
Dydd Sul 10am i 4pm
Sunday 7th December
2.30pm with Welsh Subtitles
6.30pm with English Subtitles
Tickets Standard £9 Seniors £8 Members £7
Book 24 hours in advance for £1 per ticket discount
In a unique blend of Opera and Cinema, Tanau’r Lloer (Fires of the Moon), is a mesmerising black and white Welsh Language film that premiered at the Edinburgh Festival this summer. With music performed by the Welsh National Opera Orchestra, it was inspired by Caradog Prichard’s literary classic Un Nos Ola Leuad (One Moonlit Night).
Set in the 1950's slate-quarrying landscapes of North Wales the film follows a writer who embarks on a late-night train journey, stirring memories from three decades earlier and forcing him to confront the events that led to his mother being in an asylum.
The project showcases a wealth of Welsh creative talent - The score is composed by Gareth Glyn, with a libretto by Iwan Teifion Davies and Patrick Young; Tenor Huw Ynyr stars alongside Annes Elwy, Dylan Jones, soprano Elin Pritchard, baritone Emyr Wyn Jones, and acclaimed vocalists Rhys Meirion and Shan Cothi.
The film is directed by Chris Forster with a screenplay by award-winning filmmaker Marc Evans and produced by Kirsten Stoddart. It is a co-production between Afanti, OPRA Cymru and Severn Screen, with funding from the Arts Council of Wales and Welsh Government agency Creative Wales.
Both Sunday screenings will be introduced by Patrick Young, Executive Producer of the film and Artistic Director of Opra Cymru. At 5.15pm there will be a beautiful operatic performance by Stephanie Windsor-Lewis, mezzo and Robyn Lyn Evans, tenor. Ticket holders for the 6.30pm screening should arrive at 5pm for the live opera performance.
Please book in advance to be sure of a seat!
Online at tywyncinema.co.uk
Phone:01654 710260
At the Box Office
Box office opening times:
Monday to Saturday 3pm – 9pm
Sunday 10am to 4pm